HYSBYSIAD PREIFATRWYDD YSGOL FEDDDYGAETH, DEINTYDDIAETH A GWYDDORAU BIOFEDDYGOL
Mae Prifysgol Queen’s Belfast (“ni”, ac “ein”) wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Cyfeirir yr hysbysiad at rieni neu gynrychiolwyr cyfreithiol plant sydd wedi eu cofrestru yn y treial Tawelu a Diddyfnu mewn Plant (SANDWICH), (“chi” ac “eich”). Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro pam rydm angen hel gwybodaeth bersonol amdanoch chi, beth fyddwn yn ei wneud ag ef, a sut byddwn yn gofalu amdano. Mae hefyd yn dweud wrthoch am eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’ch Data Personol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni. Nodir y manylion cyswllt isod.
PWY YDYM NI
1. Ni yw Prifysgol Queen’s Belfast, prifysgol ag enw da am ragoriaeth mewn addysg ac ymchwil ac aelod o Grŵp Russell. Wedi’n sefydlu yn 1845 fel Coleg Queen's Belfast, daethom yn brifysgol annibynnol yn 1908. Yr Athro Bronagh Blackwood, Canolfan Meddygaeth Arbrofol, Ysgol Feddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Queen’s Belfast yw Prif Ymchwilydd Treial SANDWICH. Uned Treialon Clinigol Gogledd Iwerddon (NICTU), Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast yw’r uned treialon clinigol sy’n cefnogi’r Prif Ymchwilydd yn nhriniaeth a chyd-drefniant treial SANDWICH.
SUT CESGLIR EICH DATA PERSONOL
2. Gwybodaeth rydych chi’n darparu: Pan fydd eich plentyn neu rywun sy’n dibynnu arnoch yn cyfrannu i’r treial SANDWICH byddwn yn hel gwybodaeth amdanynt megis eu hoedran a’u rhyw. Dyma eu “Data Personol”. Efallai y byddwn yn gofyn hefyd am ambell gategori arbennig o wybodaeth (er enghraifft iechyd). Gelwir hyn yn “Data Personol Sensitif”.
3. Data o ffynonellau eraill: Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am eich plentyn neu rywun sy’n dibynnu arnoch o ffynonellau eraill ac mae hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r “Data Personol”. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth o:
- Rwydwaith Archwilio Gofal Dwys Pediatrig (PICANet)
SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL
4. Rydym yn defnyddio Data Personol a Data Personol Sensitif am eich plentyn neu rywun sy’n dibynnu arnoch i ddeall effaith y Treial SANDWICH sydd yn astudiaeth ar fanteision ac anfanteision cyflwyno ymagwedd newydd gydlynol rhwng nyrsys a meddygon (gyda mwy o ymwneud gan nyrsys) ynghylch cael plant mewn unedau gofal dwys pediatrig (PICUs) i ffwrdd o’r gwyntiedydd (gelwir hyn y diddyfnu) cyn gynted â’u bod yn medru gweithredu hebddo.
SAIL GYFREITHLON AR GYFER CASGLU A DEFNYDDIO’CH DATA PERSONOL
5. Byddwn ond yn defnyddio’ch Data Personol os oes gennym resymau dilys dros wneud hynny. Gelwir y rhesymau hyn “ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu”. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich Data Personol yw:
- (e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu yn hanfodol er mwyn i chi weithredu tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau cyhoeddus, a bod gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithlon glir.
Pan yn prosesu’ch ‘data sensitif’, byddwn yn gwneud hynny yn unol ag Erthygl 9 y GDPR a’r sail gyfreithlon:
- (j) bod prosesu yn hanfodol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion gwyddonol neu ymchwil hanesyddol.
GYDA PHWY RYDYM YN RHANNU’CH DATA
6. Yn unol â’n Polisi a’n Gweithdrefnau Diogelu Data, medrwn rannu’ch gwybodaeth, gan gynnwys Data Personol a Data Personol Sensitif, gyda’r canlynol at y dibenion a nodwyd uchod:
- Uned Treialon Clinigol Gogledd Iwerddon (NICTU), Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast (BHSCT)
PROSESU DATA Y TU HWNT I EWROP
7. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich Data Personol a’ch Data Personol Sensitif y tu hwnt i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
AM BA HYD CAIFF EICH GWYBODAETH EI CHADW
8. Byddwn yn cadw’ch Data Personol a’ch Data Personol Sensitif am hyd at 5 mlynedd wedi i’r astudiaeth ddod i ben. Byddwn ond yn cadw’ch gwybodaeth os byddwn ei angen ar gyfer un o’r rhesymau a nodwyd uchod. Rydym yn gosod cryn bwys ar ddiogelu’r Data Personol sydd yn ein gofal, gan gynnwys y defnydd o fesurau corfforol, technolegol a sefydliadol i sicrhau bod eich gwybodaeth wedi ei diogelu rhag mynediad nas awdurdodwyd, colled ddamweiniol, addasiad, datgeliad, dinistriad a niwed.
EICH HAWLIAU
9. Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn darparu nifer o hawliau cyfreithiol ar eich cyfer mewn perthynas â’ch Data Personol, gan gynnwys yr hawl:
- i wneud cais am gael mynediad i’ch Data Personol;
- i wneud cais am gywiro’ch Data Personol sydd yn anghywir neu’n anghyflawn;
- i wneud cais am yr hawl i ddileu neu gyfyngu ar brosesu’ch Data Personol;
- i wneud cais am drosglwyddo’ch Data Personol mewn fformat strwythuredig a ddefnyddir yn gyffredin i’w ddarllen gan beiriant;
- i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniadau awtomatig; ac
- i dynnu’ch cydsyniad yn ôl.
10. Os ydych yn dymuno ymarfer unrhyw un o’r hawliau a nodwyd uchod, neu os ydych angen gwybodaeth bellach ynghylch unrhyw un o’r hawliau, cysylltwch â ni.
11. At hyn gall fod adegau pan na fedrwn roi stop ar ddefnyddio’ch Data Personol pan fyddwch yn gofyn i ni wneud, ond byddwn yn dweud wrthoch am hyn os byddwch yn gwneud cais.
CYSYLLTU Ȃ NI
12. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, medrwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:
Derek Weir
Swyddog Diogelu Data
Swyddfa’r Cofrestrydd
Lanyon South
Prifysgol Queen’s Belfast
University Road
BT7 1NN
info.compliance@qub.ac.uk
Swyddog Diogelu Data BHSCT
Swyddfa Diogelu Data
Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast
Llawr Cyntaf Adeilad Gweinyddu
Parc Gofal Iechyd Knockbracken
Heol Saintfield
Belfast
BT8 8BH
CWYNION
13. Mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am y modd rydym yn trin eich Data Personol a’ch Data Personol Sensitif. Medrwch gysylltu â’r ICO yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
NEWIDIADAU I’R HYSBYSIAD HWN
14. Fe allwn ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu am y newidiadau pan fydd y gyfraith yn galw arnom i wneud.